gryfaf yn fy natur, a hi a orfu maes o law. Yr oeddwn yn hoff yn ieuanc o eiriau prydferth; yn raddol dysgais garu brawddegau a ffigurau a drychfeddyliau prydferth. Digon amrwd yn ddiau oedd y canfyddiadau a'r syniadau ar y cyntaf, a'r mynegiadau ohonynt yn fwy amherffaith fyth. Yr oedd tuedd i orliwio neu ddwyn y dwyfol a'r nefol i mewn i fwyhau disgleirdeb y lliwiadaeth neu wneud i fyny am ei ddiffyg—megis galw'r enfys yn
Oludog bleth o flodion—y wawrddydd,
Neu erddi angylion.
Y mae'r aruchel (sublime) yn gynwysedig yn y prydferth athronyddol. Nid wyf yn sicr am y beiddgar, ond gan y cymeradwyid ef gan feirniaid y dyddiau hynny fel y molir cynildeb heddiw, yr oedd yn gystal â chymhelliad i feirdd ieuainc i "feiddio" dweud, er enghraifft, am y llew:
Ei ru fel rhaeadr a fydd,
Megis dirmyg ystormydd!
Ac wrth ddisgrifio "ystorom Awst ar y môr,"
Llwybr y llong yw llwybr cymyl yr wybrau.
Gwawdia'r daran ddyn gwan. O'r eigionau
Rhydd fyned wna'i riddfannau—ef i'r lan,
A'i lef wan fydd yn uwch na'r elfennau.
Ond diau fod cymaint o wir ag o feiddgarwch yn y llinell olaf; yr hyn a ddengys ei bod yn bosibl mynd i eithafion gyda "chynildeb." Y mae i'r pwys a roddir