Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Fy Mhererindod Ysbrydol.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddi yno i Glasgow drwy adrodd "Locksley Hall" ar yn ail.

Yr oedd Hugh Black yno hefyd, gyda'i lais llafar godidog. Yr oeddwn innau'n dipyn o ganwr y pryd hwnnw yr oeddwn wedi agos anghofio hyn hyd oni ddarllenais yng nghofiant Sylvester Horne yn ddiweddar gyfeiriad canmoliaethus ataf fel y cyfryw yn ei ohebiaeth â'i dad. Disgleiriai Horne mewn llawer peth, ond yn bennaf yn y Debating Society—yr oedd o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na neb a oedd yno fel siaradwr difyfyr rhydd a rhwydd ar bynciau gwleidyddol.

Iswasanaethgar i'r gwaith mawr o bregethu'r Efengyl y bwriedid i'r blynyddoedd hyn fod, ond fel y mae yna duedd gyson i'r moddion fynd yn amcan, felly yr aeth dysg, 'rwy'n ofni, yn brif amcan gyda minnau, neu o leiaf yn un a'm rhwystrai i weld mawredd y prif amcan. Rhaid i mi gyffesu na welswn y mawredd hwnnw yn glir o'r blaen, ond aeth yn llai clir. Eto ni chollais olwg arno, fel y dengys y ffaith i mi wrthod mynd i mewn am gwrs pellach yn Rhydychen. Wedi i mi ennill Ysgoloriaeth Ferguson, gwahoddodd yr Athro Edward Caird fi i'w dŷ i'm hannog i fynd i Rydychen. Atebais fod y blynyddoedd yn pasio, a'm bod am setlo i lawr i waith bywyd, ond yr hoffwn fynd i un o brifysgolion yr Almaen am flwyddyn. Yn garedig iawn, ymgymerodd â dwyn y mater o flaen y Senate a sicrhau i mi y ddwy ysgoloriaeth (Ferguson, a'r Ewing a enillaswn yn flaenorol) i'm cynnal yno, er bod telerau'r olaf yn gofyn i mi aros yn Glasgow i baratoi myfyrwyr ar gyfer gradd yr M.A. mewn athroniaeth. Trefnwyd i mi fynd i Leipsic, yn bennaf am mai yno yr oedd Wundt, ond bûm