yn Glasgow. Rhwng popeth, yr oedd yn well arnaf yn fydol nag y bu na chynt na chwedyn.
Ynglŷn â'r gymrodoriaeth hon, yr oedd gennyf bedair darlith i'w traddodi o flaen y brifysgol, ac yna i'w cyhoeddi'n llyfr, ar destun a oedd i'w gymeradwyo gan yr awdurdodau. Y testun a ddewisais, ac a gymeradwywyd, oedd "Ffydd a Gwybodaeth." Dewisais y testun am ei fod yn rhoddi i mi'r canolbwnc gorau y gallwn drefnu'r golygiadau a oedd wedi dod imi yn ystod y tair blynedd blaenorol o'i gylch. Byddai paratoi'r darlithiau felly'n waith cymharol rwydd a phleserus. Yr oedd gennyf ddigon o ddefnyddiau. Ar âl i mi ennill fy ngradd, a chael fy nhraed yn rhydd i fynd i borfeydd eraill, cefais fod llawer o syniadau ac awgrymiadau newydd yn ymgynnig i'r meddwl y dylaswn wneud cofnodiad ohonynt. "Y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun": y mae'r un peth yn wir am y meddwl, y meddwl ieuanc yn neilltuol. I gadw'r syniadau a ddeuai imi ar glawr, mabwysiedais y cynllun o gario note book bychan yn wastad yn fy llogell.
'Rwy'n cofio cael ysbeidiau mor hyfryd yn y trên ag a gawswn ar lan Teifi, am fy mod yng nghwmni'r un syniadau, neu berthnasau iddynt. Byrhawyd y ffordd i Glasgow imi o ddegau o filltiroedd lawer tro drwy drafaelu yn stratosphere yr ysbryd, uwchlaw amser a lle. Trodd y lleoedd unig, anial, rhwng Lloegr a'r Alban, lawer tro felly'n fannau poblog iawn.
Cyn i mi allu traddodi—nac, yn wir, baratoi—y narlith gyntaf, cefais fy apwyntio i gadair Athroniaeth yng Ngholeg Bangor, gyda'r canlyniad i mi orfod rhoddi'r gymrodoriaeth yn Glasgow i fyny, a