i mi ymwrthod â'r hen bregethau ar "Nef a daear a ânt heibio," etc., a phregethu ar destunau fel "Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith, ac ymlanhewch a golchwch eich dillad," etc., "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn."
Er i mi glywed prif bregethwyr Cymru o bob enwad yn ystod y blynyddoedd hyn (1874-80) yn Nhrewen, ac yn fwyaf neilltuol yng nghyrddau arbennig Castellnewydd, nid wyf yn gallu galw i gof i'r un ohonynt gyffwrdd â'm cydwybod. 'Rwy'n cofio'r Dr. Owen Thomas yn apelio'n bendant iawn at eneth (a alwai yn "ti ") ar yr oriel ym Methel, ond ni ddoi ei apêl yn agos ataf i. Nid beirniadu'r pregethu a wnaf yn fwy na mi fy hun, a'r ymagweddiad at bregethu a oedd mewn bri. Aem i'r oedfa am hwyl a huodledd, ac os caem y rheiny tybiem fod amcan addoli wedi ei gyrraedd. Diau, serch hynny, ei bod yn wir, hefyd, nad oedd mwyafrif y pregethwyr poblogaidd yn amcanu cymaint at argyhoeddi neb ag at drafod y testun yn feistraidd a hwyliog a chael "amser da."
Bu raid i mi newid fy osgo at y gwirionedd pan euthum i'r Alban, a'i glywed o enau Henry Drummond. Mewn ffordd esmwyth a didramgwydd, a diarwybod ar y cyntaf, cefais fod y gwirionedd yn fy marnu i, a bod fy marn i am fedr neu hwyl y siaradwyr yn beth dibwys ac amherthynasol, a hawliau'r gwirionedd ar fy ufudd-dod i yn bopeth. Credaf yn sicr i Ragluniaeth fy arwain i Glasgow, nid yn gymaint i ddysgu athroniaeth wrth draed Caird, ag i glywed yr Efengyl o enau Drummond. Felly yr ymddengys i mi yn awr. Eto, rhaid i mi gyffesu i mi gael mwy nag y breuddwydiais amdano erioed gan y naill a'r llall.