a gawsom yn ystod y gaeaf. 'Rwy'n cofio i mi derfynu drwy ddweud fy mod wedi derbyn an inspiration that will carry me through life, a chael gair o ddiolch caredig ganddo ef.
Gesyd y gair inspiration allan yr hyn a deimlwn; llanwyd â bywyd ac ysbrydoliaeth y geiriau a'r gwirioneddau crefyddol yr oeddwn o'r blaen yn gyfarwydd â hwy. Yn iaith Thomas Goodwin, aeth y geiriau yn bethau. h.y., yn hanfodion rial. Dygwyd Crist o'r gorffennol ac o'r cymylau i fod yn Berson byw presennol ac yn gydymaith i ni ar ffordd bywyd.
Yn ystod yr haf dilynol cefais fod y llen oedd rhyngof a dwyfoldeb Natur (gwel. Pennod IV), ac, yn wir, rhyngof a gwir werth ysgrifeniadau'r saint—pregethau F. W. Robertson er enghraifft,—wedi ei thynnu ymaith. Yr oeddwn wedi darllen yr olaf o'r blaen ond heb brofi eu blas na gweld eu gwerth yn llawn.
Ni pharhaodd cyrddau Drummond ar ôl gaeaf 1885-86, a bu raid i'r ŵyn ieuainc a arweiniodd ac a borthodd fodloni ar borfa lai iraidd, neu ynteu chwilio am flewyn glas yma a thraw. Dengys fy ail ymgysegriad yn 1887 fy mod yn teimlo'r angen. Arferwn fynychu capel Dr. Hunter yn y bore, lle y caem wasanaeth defosiynol o'r radd uchaf, ac yna draethiad huawdl ar ryw bwnc o grefydd neu foes, ond yr oedd yn rhy debyg i'm gwaith beunyddiol i'm hatynnu eilwaith yn yr hwyr. Byddai'r Prifathro Caird yn pregethu yn awr ac yn y man yn y prynhawn yng nghapel y Brifysgol, a lluoedd yn tyrru i'w wrando. Ar ddiwedd y gwasanaeth teimlwn fel un wedi bod yn gwrando ar organ fawr yn canu. Trafod rhyw wirionedd yn gyffredinol a wnâi ef, fel Hunter a'r