ef gofnodi, gan ei fod yn wahanol i'r hyn a arferwn gael. Yr oeddwn wedi addo pregethu mewn cwrdd blynyddol heb wybod fy mod i bregethu deirgwaith y Sul (fe'm cyfarwyddid i osgoi hyn). Nos Sadwrn ni chysgais nemor ddim, a chodais yn blygeiniol i fynd i weddi fel arfer, pryd y cododd yr hyn na allwn ei gymharu ond i haul poeth ar fy ymwybod, a llosgi ymaith y niwloedd tew a oedd wedi codi o'm hanhunedd. Gorlifid fi gan nerth nerfol yn oedfa'r bore, a pharhaodd drwy oedfa'r prynhawn, ond erbyn yr hwyr teimlwn yn ddiymadferth a gwyw, ac analluog i bregethu. Mentrais i'r pulpud, fodd bynnag, heb unrhyw deimlad o nerth, ac wele, fe ddaeth nerth mwy nag a brofais yn ystod y dydd, a'm cario drwy'r oedfa'n orfoleddus.
Gallwn ychwanegu'n ddi-ben-draw ymron, ond y mae digon wedi ei ddweud i ddangos natur y fendith a ddaeth i mi, ac a ddaw i eraill, o gysylltiad dyfnach, a mwy personol bendant â'r ysbrydol. Nid oedd yn llai na bywyd newydd, a bywyd helaethach na'r hwn a fwynhawn yn ugain oed. Ai tybed nad yw ffigur ail-enedigaeth yn cynnwys cyfeiriad at y fath fynegiad o fywyd newydd i hynafgwyr? Eithr nid fy amcan yn awr yw ceisio ei esbonio, pe gallwn. Ni allwn, yn wir, gan yr âi yr ymgais â mi allan o'm dyfnder. Nid yw y rhan fwyaf o feddylegwyr yn gwybod dim am y fath brofiadau, ac ni allant chwaith, gan mai yn unol ag amodau ysbrydol yn unig y ceir hwy. Gofynnais i feddyg cyfarwydd â'r ysbrydol a'r anianol ei farn ar ffenomenau o'r fath, a'r unig beth allai ddweud oedd fod yr Ysbryd Glân yn ddiamau yn gweithredu fel tonic ar y sistem nerfol—yr hyn nad yw ond mynegi'r ffaith mewn geiriau eraill.