chanmlwydd oed, yn cynnwys hanes diwygiadau America a'r wlad hon yn y ddeunawfed ganrif. Dechreuais ddarllen y blaenaf yn ei ddiwedd, am mai yno yr oedd mwyafrif y ffeithiau y seilid damcaniaeth y llyfr arnynt, neu ynteu a eglurebai y ddamcaniaeth. Eto y prif wasanaeth a roddodd y gyfrol i mi oedd fy arwain at yr awdur a'i weithiau eraill, a fuont i mi yn drysordy o ddoethineb a gwelediad ysbrydol yn ddiweddarach. Am y llyfr arall ar hanes yr hen ddiwygiadau, gellir casglu sylwedd y cyfarwyddyd a gefais ynddo i un frawddeg a ddigwydd ynddo droeon ac a bwysleisir gan y sawl a'i hysgrifennodd, sef "Conviction is not conversion." Wedi dod yn ôl o'm gwyliau, deuthum o hyd i ddarlithiau Finney ar ddiwygiadau, a chael allan ei fod ef yn gosod awakening o flaen conviction, a baptism of the Holy Spirit ar ôl conversion. Fel hyn deuthum o hyd i linyn neu linell arweiniol drwy gymhlethrwydd y ffenomenau—llinell a barai fod y deall, y teimlad, y gydwybod, a'r ewyllys yn syrthio i'w lle, o leiaf yn ddeallol i mi.
Cofiaf yn dda fod tuedd ynof i ddisbrisio'r hanesion a gyhoeddid ar y cyntaf, a chael help i beidio â'u dibrisio nes cael praw i'r gwrthwyneb o ddau gyfeiriad annisgwyliadwy, sef Shakespeare a rhesymeg! Os gwir a ddywaid Shakespeare, "The devil can quote Scripture," dywedai fy mhrofiad i yr adeg hon, "The Spirit can quote Shakespeare," canys gwisgwyd y llinellau cyfarwydd
There are more things in heaven and earth, Horatio,
Than are dreamt of in our philosophy;