nghyfarfod Siloh i beri i mi feddwl am fawredd dwyfol yr Arglwydd Iesu, heblaw yr emyn uchod, ond cofiaf yn glir iawn mai dyna destun fy myfyrdod yn ystod yr amser y bûm yn cerdded i fyny ac i lawr llwyfan yr orsaf, mewn ymgais i amgyffred ei led a'i hyd, ei ddyfnder a'i uchder. Nid wyf yn cofio ai dyna fy nhestun yn Abertawe, ond arferai Mr. David Lloyd, Killay, a oedd yn ddiacon yn Ebeneser y pryd hwnnw, ddweud iddynt gael blaen adain y gawod yno'r Sul hwnnw. Ym Melincrythan, bythefnos yn ddiweddarach, y gwelais i effeithiau y nerth ysbrydol a wnâi gynulleidfaoedd yn gyfryngau iddo'i hun gyntaf. Dywedaf" gwelais " yn hytrach na teimlais," gan na theimlwn i fel y rhai a gymerai ran, niferi o fechgyn a merched, ond yr oeddwn yn gallu cydymdeimlo i fesur, a phlygu fy mhen dan yr ystormydd o fawl a gweddi a ysgubai drwy'r oedfa. "Dim ond emosiwn," meddai rhai beirniaid amddifad o brofiad a gwybodaeth feddylegol yr un pryd—yr olaf am y gwnâi meddyleg iddynt ystyried bod achos meddyliol i emosiwn, a'r blaenaf am y byddai'n eglur iddynt mai'r gwerthoedd a achosai emosiwn mawr y diwygiad oedd gwirioneddau yr Efengyl yn y ffurf o ganfyddiadau uniongyrchol. Nid oedd nemor sôn amdanynt fel erthyglau mewn cyfundrefn ddiwinyddol, ac nid oedd eisiau, gan eu bod yn sylweddoledig gan y saint symlaf, yn fara'r bywyd i gyfranogi ohono, yn hytrach nag yn bwnc i ddadlau yn ei gylch.
"Ysbryd y gwirionedd " a oedd yn weithgar yn y diwygiad a barodd i gantores ifanc na wyddai nemor ddim am ddiwinyddiaeth, ond a feddai ar fam dduwiol i ddatgan gorfoledd ei henaid yn emyn Hiraethog,