ieuenctid dibrofiad ym mhob oes (felly yr oedd yn fy amser bore i) i hunaniaethu crefydd ag opiniynau neu ddamcaniaethau dynol newydd, yn hytrach nag â'r gwirioneddau tragwyddol sydd yr un o hyd yn eu hanfod er yn gyfaddasedig i ofynion pob oes.
Y mae categorïau gwybod, deddfau rhesymeg, hanfodion moesoldeb, amodau cyfeillgarwch, yr un heddiw ag oeddent i Aristotle, er y gall ein hamgyffrediad a'n gwerthfawrogiad ni ohonynt fod yn fwy (neu lai) digonol. Y mae hyn yr un mor wir am wirioneddau crefydd, o'u gwahaniaethu oddi wrth syniadau amdanynt.
Diau y bydd yn achos chwithtod i rai o'm cyfeillion pan ddywedwyf nad oes gennyf yn awr, yn niwedd y dyddiau, un sistem ddiwinyddol ond y sistem sydd ymhlyg yn y Beibl, yn neilltuol yn nysgeidiaeth yr Iesu. Efallai ei bod yn angenrheidiol i'r meddwl dynol dreio gwahanol gategorïau annigonol cymwys yn unig i diriogaethau Natur, Gwladwriaeth, etc., a thrwy weld eu hannigonolrwydd ddod yn ôl at gategori y Teulu a ddefnyddir gan yr Iesu. O leiaf, y mae'n rhaid i bob un a brofodd wynfyd ac agosrwydd y berthynas fabol â Duw deimlo bod y sistemau sydd gennym yn rhy gelfyddydol a chyfreithiol, ac nad ydynt namyn gwellt, a defnyddio ffigur Aquinas. Diau hefyd fod pob gwir Gristion, fel y mae yn ymddatblygu mewn " adnabyddiaeth " o Dduw, yn tyfu allan o faban—wisgoedd gwybodaeth ddeallol: gwybodaeth, hi a ddiflanna;" yna wyneb yn wyneb." Yr wyf, bid siŵr, wedi darllen wmbredd o ddiwinyddiaeth o bob math, yn perthyn i bob ysgol, yng nghwrs y blynyddoedd. Y mae llwybr fy mhererindod wedi mynd â mi i Keswick, ac i gyffyrddiad â