ni allwn symud, a bu raid fy nghario i'r tŷ, a dychwelyd i Gaerfyrddin mewn modur, ac yna orffwys oddi wrth fy llafur am chwe mis.
Eithr yr oedd mwy na'r gwaith dau ddiwrnod yn Briton Ferry y tu ôl i'r "torri i lawr" yma; oblegid er i'r rhyfel (1914-18) leihau'r galwadau am wasanaeth oddi cartref, trowyd y blynyddoedd hyn i mi, gan amgylchiadau neilltuol, yn gyfnod o ysgrifennu ychwanegol. Yn gyntaf, ar gais awdurdodau'r Undeb (Annibynnol), ysgrifennais esboniad ar y Philipiaid a Philemon. Golygai hyn fwy o ddarllen a myfyrio nag a ymddengys ar yr wyneb. Yn wir, cefais dystiolaeth gan un gweinidog graddedig ei fod ef ar y cyntaf yn darllen hanner dwsin o esboniadau ar wers y Sul, ond iddo gael gwaredigaeth oddi wrth y llafur hwnnw drwy ddarganfod bod eu sylwedd yn fy esboniad bychan i. Yna cefais fy mherswadio gan berthnasau a chyfeillion i ysgrifennu cofiant i'm brawd Emlyn, am, meddent hwy, os na wnawn y byddai rhywun, arall—un arall yn neilltuol—yn sicr o wneud. Yr oedd mynd allan o linell fy mhererindod i gyfeiriad arall yn gwbl groes i'm teimlad, ond wedi llawer o betruster ymgymerais â'r gwaith, a chefais gryn bleser ar hyd hen lwybrau awen a chân. Yn wir, cefais gymaint o bleser fel, pan ddaeth awgrym y dylwn ysgrifennu cofiant i Dr. Parry, ni'm lluddiwyd gan un petruster. Yr oedd Parry yn wrthrych o lawer o ddiddordeb i mi fel person, ac yn neilltuol fel artist. Yr oeddwn mewn blynyddoedd cynt wedi darllen cryn lawer o hanes artists, yn gerddorion, beirdd, ac arlunwyr. Yr oeddynt o diddordeb meddylegol i mi'r pryd hwnnw, ac yn y blynyddoedd ar ôl y diwygiad dyfnhawyd y diddordeb gan yr anhawster i gael lle