GALAR GAN,
ER COFFADWRIAETH
Am y ddamwain ddychrynllyd a ddygwyddodd yn ngwaith
glo Syr John Owen, yn Landshipping, Hwlffordd, Swydd
Bentro, ger lle y collodd 40 eu bywydau gan y dyfroedd
a dorodd i mewn i'r gwaith, 7 o honynt oedd yn briod;
gadawsant weddwon ac 28ain o blant amddifaidi alaru
ee colled ar eu hol, a 33ain eraill ydoedd fechgyn ieuainc.
Dygwyddodd hyn ar ddydd Mercher, Chwefror 14eg,
1844. Thomas Gay a adawodd wraig a phump o blant;
Benjamin Harts (a'i fab) a adawodd wraig ac un plentyn;
Thomas Llewelyn a adawodd chwaer a ymddibynai arno;
William Llewelyn a adawodd wraig a phlant yn eu maintioli; Benjamin Jones a adawodd wraig, Joseph Picton
(a'i dri mab) a adawodd wraig a thri o blant; John Cole
a adawodd fam a chwiorydd a ymddibynent arno; Hitchings a Richards yn weddw; Joseph Thomas a gollodd un mab; James Owens a gollodd un
mab;
Weddw Davies
a gollodd ddau fab; Thomas John a gollodd ddau fab;
Weddw Picton â gollodd ddau fab; Weddw Cole a golledd
un mab; John Hughes a gollodd un mab; Weddw John
a gollodd un mab; William Hitching a gollodd un mab;
James Llewelyn a gollodd un mab; Richard Jones a gollodd nn mab; Robin Butler a gellodd ddau fab; Thomas
Cole a gollodd ddau fub; Isaac Jenkins a gollodd un mab
a dau amddifaid o'r ddiweddar Jane Wilkins.
Cenir ar y "Don Fechan."
Newyddion pruddion sydd i'm clustiau,
Yn peri i lawer wylo dagrau:
Rhyw gannoedd sydd mewn blinder meddwl
O ddydd i ddydd dan ddirfawr drwbwl.
O mor ansicr ydyw'n hamser,
'Does neb a'i gwyr ond Duw'r uchelder, A
Efe a chwilia giliau'r galon,
Ei 'wyllys ef yw'r holl ddamweinion.