Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Galargan Damwain Glo Landshiping Chwefror 14 18444.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A rhai'ny sydd ar dori eu calon
Ar ol eu manwl dadau mwynion,
Ac wrth eu mamau maent yn bloeddio,
Ddaw'n hanwyl dad byth atom eto

Eu mamau sydd yn tywallt dagrau
Wrth eu hymadrodd a'u gruddfanau,
Ac hefyd meddwl am eu priod,
'Does neb all ddirnad maent eu trallod.

Ond mae un yn gadarn Geidwad,
Addawodd gofio am y gweiniaid;
Addawodd Duw yn ei fawr gariado
Borthi'r gweddwon a'r amddifaid.

Er nad oes gobaith medd hanesion,
Y gellir codi cyrff y meirwon,
O'r man a'r lle dygwyddodd angau
Roddi terfyn ar eu dyddiau.

Nes del angel Duw i'n galw,
Pan rydd y mor i fynu'r meirw
Ac bydd pawb o'u beddau'n co di,
Byddant hwythau yn y cyfri'.

Gobeithio bod eneidiau'r bobl,
Ga'dd eu gyru i'r byd trag'wyddol,
Heddyw'n moli'r anwyl Iesu
Fu farw ar bren o'i fodd i'n prynu.

Gobeithio bydd i'r rhai achubwyd
Roddi mawl i'r Oen a laddwyd:
Ar sylfaen gre gwnawn oll ymddiried,
Yn wir Amen yw fy nymuniad.

——Edward Jones, Môn, a'i Cânt.


J. T. Jones, Argraffydd, Caerfyrddin.