Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru 1867-Cyf I.djvu/679

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gwybodaeth fuddiol i blant y dosbarth
gweithiol; yn hyn gellir cyfeirio at ysgolion
cenedlaethol Aldmondbury, y rhai a godwyd
ac a gynaliwyd ganddo of hyd ei farwolaeth.
Dyn ymarferol oedd Mr. Jones, yn wastad
yn barod i gynorthwyo ei blwyfolion, ac yn
ddoeth i'w cynghori yn amser trallod ysbryd-
ol, neu adfyd tymhorol. Y tlodion mewn
modd arbenig a deimlasant golled ar ei ol,
canys yr oedd ei law bob amser yn agored at
ddiwallu eu hangenion. Teimlai yn anhwylus
tuag wythnos cyn ei farwolaeth. Ar ei ddy-
chweliad adref wedi bod yn cymeryd rhan
yn ngosodiad sylfaen eglwys newydd Shelley,
cymerwyd ef yn glaf o gyfogiad, yr wrwst,
a'r dolur rhydd-arwyddion y geri marwol.
Cafwyd cymorth meddygol yn ddioed; ond
yr hen elyn a orchfygodd, ac ehedodd ysbryd
yr hen bererin diwyd a llafurus, i newid, fel
y dywedodd ychydig cyn ei ymddatodiad, yr
wybodaeth dlawd ac anmherffaith o'i iach-
awdwriaeth, am lawn amgyffrediad o'i deyrn-
as a'i ogoniant. Bu farw Awst 26, 1866, yn
73 mlwydd oed, wedi gwasanaethu fel ficer
y plwyf dros 43 o flynyddau.

JONES, JOHN, Llangower, ger y Bala; yr
hwn wedi hyny a fu yn byw yn Ngwrexham,
Bu farw yn agos i Bontcysylltau, nid yn
mhello Langollon. Ganwyd ef yn y flwydd-
m 1797; a bu o dan driniaethau cadwedigol
Ysbryd y gras oddiar pan oedd yn ddwy ar
bumtheg oed; ac yn bregethwr ffyddlon o
oludoedd y groes am y saith mlynedd olaf o'i
oes. Yr oedd yn gwbl ymroddedig i ewyllys
ei Arglwydd am y pum mis y bu yn glaf; a
dywedai yn aml, "Gwnaed a fyddo da yn ei
olwg." O ran ei grefydd a'i dduwioldeb
cyffredinol, yr oedd yn ddiargyoedd, syml, a
sobr; ac yn un oedd yn wir ymdrechol a
chydag egni gyda phob peth da, ag a fyddai
o lesiant cyffredinol; ac am hyny gellid ei
alw, er byred ei oes, yn un o enwogion Cy-
mru. Bu farw Gorphenaf 28, 1826, yn naw
mlwydd ar hugain oed.

JONES, BENJAMIN, Bethesda, ydoedd
fab i'r Parch. Daniel Jones, Carneddi. Yr
oedd yn wr ieuanc cymeradwy a ffyddłon
iawn, a llym yn erbyn pechod. Yr oedd yn
bregethwr parchus gyda'r Trefnyddion Cal
finaidd. Magwyd ef yn eglwys Dduw, a bu
fyw trwy ei oes yn ddiargyoedd; a bu farw
gan dystiolaethu ei fod yn marw yn yr Ar-
glwydd. Hunodd y dyn ieuanc gobeithiol
hwn ar ddydd Llun, Ebrill 22, 1844; a
chladdwyd ef yn mynwent Llanllechid. Felly
ar ol hir gystudd gorphenodd y gwas ffydd-
lawn hwn i Grist ei yrfa ar y ddaear, gan
adael gwraig a phlentyn, yn gystal a'r eg-
lwys, i deimlo eu colled, ac i alaru ar ol priod
a thad, ac aelod defnyddiol.
JONES, LLEWELYN, Llwynbrwydrau,
oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfin-
aidd yn sir Forganwg. Ganwyd ef yn y
flwyddyn 1801. Bu yn pregethu am amryw
flynyddau, ac ystyrid of gan ei frodyr yn
Gristion da, ac yr oedd ei weinidogaeth yn
dra chymeradwy gan yr holl eglwysi trwy y
sir. Ond ar fore Sabbath, Medi 16, 1849,
cymerwyd ef yn glaf o'r geri marwol, a bu
farw, yn 48 mlwydd oed, gan adael cylch
helaeth a lluosog o gyfeillion crefyddol i gyd-
ymdeimlo a'i weddw archolledig, yr hon oedd
yn alarus ar ei ol.
JONES, EDWARD, 3ydd, gynt o Lan-
dysilio, oedd weinidog gyda'r Wesleyaid.
Efe a ddechreuodd yn fore, ac a lafuriodd yn
selog a ffyddlon am haner can mlynedd. Bu
farw yn Llanidloes, Gorphenaf 22, 1855, yn
75 mlwydd oed.
JONES, JOHN, Tremadoc, oedd weinidog
gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn sir Gaer-
narfon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1776, ac
aeth at grefydd yn ieuanc, a dechreuodd
bregethu pan oedd yn 26 mlwydd oed; a
chafodd ei gyflawn urddo i waith y weinidog-
aeth yn nghymdeithasfa y Bala, Mehefin,
1314. Yr urddiad hwnw oedd yr ail yn
Ngogledd Cymru, a'r olaf y bu y Parch.
T. Charles, o'r Bala, yn cymeryd rhan ynddo.
Nid oedd Mr. Jones gan wendid a methiant
yn gallu myned o'r tŷ er ys llawer o fisoedd;
ond yr oedd ei ysbryd yn dawel a siriol; a
dywedai yn aml, "nad oedd arno ofn dim ond
yr afon."
Enillodd yr hen bererin a thad
iddo ei hun radd dda yn mysg ei frodyr. Fel
pregethwr, yr oedd yn un eglur a rheolaidd
ei sylwadau, iraidd iawn ei ysbryd, glanwedd
ei olwg, bywiog ei ddull, a pheraidd ei lais;
fel gweddiwr, yr oedd yn rhagorol; yr oedd
yn ddiau yn meddu y ffordd o'i galon ei hun,
a thrwy galonau y gwrandawyr, hyd at or-
seddfa nefol ras. Fel bugail ac arolygydd
am yr holl achos, yr oedd yn nodedig am ei
ofal a'i ffyddlondeb. Aeth dernyn didwyll
a dysglaer o hen Fethodistiaeth Cymru ym-
aith yn ei ymadawiad ef. Efe oedd er ys
amser bellach yr henaf oedd yn urddedig yn
y cyfundeb. Ymadawodd a'r byd hwn ar
y 30ain o Ionawr, 1857, pan yn 81 mlwydd
oed. Yr oedd wedi bod yn pregethu 55 o
flynyddoedd, gyda chymeradwyaeth a llwydd-
iant. Claddwyd ei weddillion marwol yn
mynwent plwyf Penmorfa. Nid oes genym
ddefnyddiau i roddi hanes pellach am dano.
Q