Tudalen:Geirlyfr bywgraffiadol o enwogion Cymru 1870.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Cymerwyd gwraig a merch Caradog yn garcharorion, a'i frodyr a
ymroddasant o'n gwirfodd; ond Caradog ei hun a ffodd at Aregwedd
Foeddawg (neu Cartismandua yr uchawduron, brenines y Brigantwys,
a hithau yn y modd mwyaf bradychus ac ysgeler, a'i traddododd mewn
cadwynan i'r Rhufeiniaid, yn 0.C. õl, a'r nawfed flwyddyn er dech-
reuad y rhyfel yn Mhrydain. Ni wyddia, gyda dilysrywdd, pa le yr
ymladdwyd y frwydr olaf rhwng Caradog ac Ustorius; tybia ruui mai
Caer Caradog, yn sir Amwythig, yw y lle: a barna eraili mai ar
Gnol Coacal, yn agos i Brampton Brian, yr ymladdwyd hi; gesyd rhai
ei gorsaf ar Gefn Carnedd, yn mhlwyf Llandinam, yn sir Drefaldwyn;
ac eraill, gyda mwy o debygoldeb, ar Fynydd Breidden, ar y tu
gorllewin i'r Hafren, ac nid neppell o Lanymyneich. Dywed Tacitus
fud clod Caradog wedi ymdaenu dros yr holl wledydd oddiamgylch, a'i
fod yn enwog hefyd yn yr Ital, lle yr oedd dymuniad mawr am weled
y gwr a ddirmygasai en byddinoedd am gynifer o flynyddoedd. Pan
yaddangosodd yn Rhufain, yr oedd gorfoledd dirfawr trwy yr holl
dilinas; "Nid llai," medd yr un hanesydd, "na pban ddygwyd
Sypliacs yno gan Scipio, a Perses gan L. Paulus, nen neb o'r brenin-
oedd eraill a yinddang Basent yno yn garcharorion." Ie, "ni bu dinas
Ranfain ond prin erioed lawnach o bobl na'r pryd hwnw; nid yn unig
y cyffredin bobl, ond y pendefigion, yr achel gadbeniaid, y marchogion,
a'r arglwyddi, o bell ac agos, oeddynt yn cyrchu yn finteioedd i gael
golwg ar y gwr a ymladdasai gyhyd o amser à boll gadernid Rhufaíu."
Pan yr ymddangosodd o flaen gorseddfainc Claudius, parodd ei
ymddygiad mawrfrydig a'i araeth effeithiol i'r ymberawdr roddi ei
ryddid iddo ef, ei wraig hefyd a'i frodyr. Gyda'i ryddhad yn Rhufain
y terfyna crybwylliad Tacitus am Garadog; ond yn ol y cofion Cymreig,
cymerwyd Bran Fendigaid, ei dad, gydag ef i Rufain, lle y bu ef yn
wystl an saith mlynedd, a phan ddychwelodd i'w wlad ei hun ar
ddiwedd ei gaethiwed, dygodd y Grefydd Gristionogol gydag ef i
Brydain, a hyny a fu dechreu cred a bedydd yn y wlad hun. (Gwel
BRAN FENDIGAID). Y mae peth dyryswch yn nghylch achau Caradog.
Dywed yr holl gotion Cymreig yn ddigon diamwys mai mab ydoedd i
Bran ab Llyr Llediaeth; ond dywed Dion Cassius, yr hwn a ysgrifen-
odd hanes Rhufain yn yr iaith Roeg, y drydedd ganrif, mai mab i
Gynfelyn (Cunobelinus ysgrifenwyr tramer) ydoedd. mae y pwnc
yn rhy faith i'w olrhain yn hyn o le: ond y mae Carnbuanawe, gyda'i
graffder a'i degwch arferol, wedi dangos yn ddigon boddhaol fod mwy
y bwys i'w osod ar y cofysgrifan Cymreig yn y peth hwa nag ar yr
hanesydd Groeg. Nid oes, gan byny, nemawr o achus i anmhen nad
mab i Brån ab Llyr ydoedd Caradog, fel y mae yr holl gofnodan
Cymreig yn unllais yn tystiolaetbu.
Y mae llawer o grybwyllion am Garadog yma ac acw yn y Trivedd;
megys, yn mhlith eraill, y canlynolion Tri Unben Rhaith Ynys
Prydain un, Caswallawn ab Lludd ab Beli ab Mynugan; ail,
Caradawg ab Brin ab Ldyr Llediaith; trydydd, Owain ab Macsen
Wledig." (Cyfrea iii. 17). "Tri Glewion Uubeniaid Ynys Prydain :
Cynfelyn Wledig: a Charadawg ab Brân; ac Arthur." (Cyfres iii. 23).
"Tri Phrif Gatteyr Ynys Prydain: Caswallawn ab Beli; Gweirydd
fab Cynfelyn Wledig; a Charadawg fab Brån ab Llyr Llediaith." (Cyf
iii. 24. Tri Unben Dygynnyll Ynys Prydain: cyntaf, Prydain ab
Aedd Mawr, pan rodded teyrnedd ddosbarthus ar Ynys Prydain a'i
rhagynysuedd; ail, Caradawg ab Bran, pan ddoded arnaw of gatteyrn-