Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Glan Cledwen.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glan Cledwen.[1]

(1854-1897.)

R. H ROBERTS (Glan Cledwen).

Y MAE enw'r ysgolfeistr a'r llenor Glan Cledwen yn adnabyddus i ddarllenwyr CYMRU, oherwydd ymddanghosodd ei ddrama ychydig amser yn ol, ac y mae amryw o'i gyfansoddiadau wedi eu trefnu ar gyfer rhifynnau dyfodol. Tybiais y cawn gynorthwywr medrus a selog ynddo, a chwith iawn gennyf deimlo ei fod yn ei fedd. Ganwyd R. H. Roberts yn Hydref, 1854, yn Nant y Rhiw, rhyw ddwy filldir o dref Llanrwst.

Y mae ei rieni, Evan a Catherine Roberts, yn byw yn yr hen gartref hyd heddyw. Derbyniodd ei addysg foreuol, mi gredaf, yn Ysgol Frytanaidd Llanrwst. Bu wedi hynny yn ddisgybl-athraw gyda Mr. John l'rice yn Ysgol Blaenau Llangernyw. Oddiyno aeth i Wytherin, cymerodd ei enw llenyddol oddiwrth afon y lle; ac ymddengys fod gan Wytherin swyn neillduol iddo, ardal ei fam, a'r ardal o'r hon y priododd un o forwynion glân Meirionnydd. Oddiyno aeth i Bodffordd, Mon; yna i Landdoged; yna i Ddolwyddelen; yna i Ysbyty Ystwyth, lle y dygodd Gymraeg i'r ysgol, nid peth hawdd yn y dyddiau hynny; a thua dwy flynedd yn ol, daeth i ysgol Maenan, o fewn tair milldir i'r gogledd o Lanrwst. Ac yno y bu farw, ym mlodau ei ddyddiau, a chyn i'w awen gael ond prin drwsio ei hadenydd, Gorffennaf 29, 1897. Claddwyd ef ym. mynwent Capel Seion, Llanrwst.

Rhagorodd Glan Cledwen fel ysgolfeistr, —bu'n llwyddiannus ymysg y plant ac yn boblogaidd ymysg rhieni. "Credai mai fel Cymro y dylid addysgu Cymry, ac y mae gennyf lythyrau oddiwrtho sy'n dangos fod ganddo syniadau uchel, goleuedig, a brwd- frydig ami addysgu plant Cymru.

Ymdaflodd i waith lle bynnag yr oedd, yuglŷn â gwlad a chrefydd. Bu'n gadeirydd Cyngor Plwy Ysbyty Ifan, a llanwodd yr un swydd ym Maenan. Teimlai fod ganddo ei ddyledswydd at ei gyd-ddynion, yr oedd yn wr o argyhoeddiadau cryfion, ac yr oedd yn barod i ymladd o'u plaid.

Yr oedd yn awyddus am wybodaeth, ac ymegniodd i enwogi ei hun. Daeth i sylw gyntaf, fel llawer un o'i flaen, yn y cyfarfodydd llenyddol a'r eisteddfodau lleol. Cafodd dlws y Gordofigion yn Lerpwl yn 1877 am ramant, a'r wobr am ramant "Syr John Owen o'r Clenenau" yn Eisteddfod Dalaethol Gwynedd ym Mhorthmadog yr un flwyddyn. Cafodd wobr Eisteddfod Bethesda am draeth- awd yn 1878. Cafodd wobr Eisteddfod Llanrwst am gasgliad o enwau Dyffryn Conwy. Daliodd i gystadlu, a daliodd i ennill sylw. Yn Eisteddfod Gwyr Ieuaine Gwrecsam eleni rhoddwyd y gader, am y tro cyntaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, am ddrama. "Ednyfed Fychan" oedd y testyn. Enillodd Glan Cledwen y gader honno. Gwyddai ei hun nad oedd ei ddrama yn berffaith, ond yr oedd yn ddechreu da, a buasai wedi cryfhau yn ei waith pe cawsai fyw. Ymysg amryw fuddugoliaethau ereill, yr oedd yn gydradd â Mr. R. A. Griffith am ddrama ar Gyflafan y Fenni" yn Eisteddfod Genedlaethol 1897. Yr oedd yn frwdfrydig am fynd i'r Eisteddfod i Gasnewydd, ond daeth angeu rhyngddo a hi, ac ni chafodd wybod am ei lwyddiant.

Mae bywyd Glan Cledwen yn llawn of ddyddordeb i mi. Trwy lawer o anfanteision ymberffeithiodd fel athraw, fel gwladwr, ac fel llenor. Ar ddydd ei farwolaeth yr oedd, mi gredaf, a'i ysgol wedi ei rhyddhau oddiwrth arholiad, yn fuddugwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gadeirydd Cyngor Plwy ei ardal. Ac i'r athraw weithio fel y gwnaeth ef, parcher ei goffadwriaeth, a dilyner ei esiampl.

Mae gan athraw a'i lygad yn ei ben lawer iawn o fanteision, mwy ond odid na neb arall i wasanaethu hanes a llenyddiaeth ei ardal. Gall gasglu traddodiadau 'r hen oesoedd, gall ysgrifennu hen ganeuon sydd yn aros ar lafar gwlad, gall gasglu enwau lleoedd a chwilio am eu hystyron.

  1. Cymru 15 Rhagfyr 1897