Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenin mawr, dirfawr, a doeth;
Rhi'n honaid ar frenhinoedd,
Praff deyrn, a phen proffwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o bai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw?
Ar ôl pob peth pregethu,
"Mor ynfyd y byd!" y bu.
Gair a ddwedai, gwir ddidwyll,
"Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd."
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd, em wen!
Ni chair yr em hardd-drem hon
Ar gyrrau'r un aur goron,
Na chap Pab, na chwfl abad,
Na llawdr un ymherawdr mad.
Llyna sylwedd llên Selef,
Daw'n ail efengyl Duw nef:
Dwedai un lle nad ydoedd,
A'r ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn nefoedd, hoff lysoedd fflwch—
Fan deg yn nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddrws a gaid;
Pob carreg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;
Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/17
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon