Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofier it guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.

Llyna, fy nghyfaill annwyl,
Ddifai gwers i ddof a gŵyl.
Diffrwyth fân flodau'r dyffryn,
A dawl wagorfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Yfory oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ôl dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod.
Er pasio'r ddau gynhaeaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf,
A'r ardd yn o hardd ddi-haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gaeaf,
Y rhos a holl falchder haf
Y rhos heneiddiodd y rhain,
A henu wnawn ni'n hunain,
Ond cyn bedd, dyna 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi:
Dybid in' ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Mynd yn ôl, cyn marwolaeth
I Fôn, ein cysefin faeth.