Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dy enw fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach, f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwylia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Môn.
Poed it hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen, i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp lôn gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Môn a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorrog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân,
Pa les cael lloches o'r llaid?
Duw ranno dŷ i'r enaid,
Gwiw gannaid dŷ gogoniant,
Yng nghaer y sêr, yng nghôr y Sant
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r lôn cu,
Poed Gwŷr Môn, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy;
Cyduned a llefed llu
Monwyson, "Amen, Iesu! "

1756.