Gwirwyd y dudalen hon
I.
- IASBIS : maen gwerthfawr.
LL.
- LLAS : lladdwyd.
- LLAWDR (LLODRAU) : trywsus.
- LLEIR (DARLLEIR) : darllenir.
- LLIFIAINT : llifeiriaint.
- LLUGORN : llusern.
- LLUYDD : milwr, cadfridog.
- LLYW : llywydd.
M.
- MAEL : elw, stôr, masnach.
- MINIAW (MINIO) : profi.
- MORYD : glan môr.
- MWNAI : arian, cyfoeth.
- MYG : gogoniant.
- MŶR : moroedd.
N.
- NERTHYD : o'm nerthyd — os nerthi fi.
- NO : Noah.
O.
- ONADDUN : ohonynt.
P.
- PAELED : plastr, cacen.
- PAND : pa onid, onid.
- PARCH : anrhydedd.
- PEDRYFAN : pedwar ban.
- PYD : perygl (en-byd).
RH.
- RHEFEDD : trwchus, tew.
- RHÊN : arglwydd, brenin.
- RHYCHWANT : mesur.
- RHYDDIRIO : deisyf.
- RHYNBWYNT : pwynt rhynnu, rhewi.
S
- SELEF (SELYF) : Solomon.
- SOFFYDD : ffilosoffydd, athronydd.
- SUD : cyflwr.
- SYWLYFR : llyfr doeth.
T.
- TAU : " y toreth tau " — dydoreth.
- TAERGOEG : gwawdlyd, llawn dirmyg.
- TOLI : lliniaru, meddalu.
- TORETH : digonedd, llawnder.
- TUDWEDD : gwlad.
- TWN (ton) : toredig.
- TWRDD : twrf.
- TYMP : amser.
U.
- UNBENESAIDD : breninesaidd.
- URDDUNO : urddasoli, anrhydeddu.
Y.
- YMODI : symud (" na 'moded Môn ").