Tudalen:Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth (1931).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

DICHON mai Goronwy Owen oedd bardd gorau ei ddydd ym Mhrydain.

Yn 1723 y'i ganwyd ef, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, ac am ran gyntaf ei oes helbulus drifftio tua Llundain y bu. Canys yno yr oedd calon y byd yn curo; yno yr oedd y cewri llenyddol—Pope, Dryden, Addison, John Dennis ac Ambrose Phllips. Yno hefyd yr oedd Richard Morris (un o Forrisiaid Môn) a Chymdeithas y Cymmrodorion. Nid prifddinas Lloegr oedd Llundain, ond prifddinas pedair gwlad.

Felly, ar ôl ei daflu o guradiaeth Llanfair Mathafarn Eithaf (oherwydd dymuno o Esgob Bangor ei rhoddi i ryw young clergyman of very great fortune), ac ar ôl iddo fod yn gurad yng Nghroesoswallt, lle y priododd; yn Uppington, ger Amwythig, lle y cyfansoddodd gywydd "Y Farn Fawr"; ac yn Walton, Lerpwl, lle y cyfansoddodd " Y Maen Gwerthfawr"; fe'i gwelwn ef tua 1755 yn gurad Northolt, gerllaw Llundain, a'i gariad at Fôn, oedd gynt mor angerddol, wedi oeri (gwell ganddo, meddai, na mynd yn ôl i Fôn fyddai byw ymysg" cythreuliaid Ceredigion, gyda Llywelyn [Morris] ").

Er bod rhyddiaith Goronwy Owen, yn ei lythyrau, ymhlith rhyddiaith orau'r Gymraeg (ac yn nhraddodiad Elis Wynne), fel bardd y mae'n enwog. Yr oedd wedi ei drwytho yn nhraddodiad