Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiogel, gollyngasant hi. Esgynai hithau, gan ymdroelli mewn cylch neillduol, nes cyrhaedd uchder penodol, ac yna ymaith â hi yn unionsyth yn nghyfeiriad Cymru. "Dyna hi, Jack," ebe Dewi, "yn syth i Feirion." Ac wedi dychwelyd i'w lletty y prydnawn hwnw, dechreuodd Dewi ganu, a John Evans ysgrifenu, y gân naturiol hono. 

Wedi aros am oddeutu pum mlynedd yn Llynlleifiad, dychwelodd i'w hen wlad enedigol, i beidio ymadael mwy. Yn fuan wedi hyny, sefydiwyd y Gymdeithas Ddirwestol yn Nolgellau. Ei hysgrifenydd cyntaf hi ydoedd Mr. John Evans, Joiner; mab hynaf y diweddar Dafydd a Chatherine Jones o'r Pobty, a brawd i'r diweddar Mr. David Jones, Llyfr-rwymydd, a Mr. Humphrey Jones, Tanybryn yr hwn yn unig o'r teulu sydd yn aros hyd yr awr hon. Yr oedd John ar y pryd newydd ymbriodi â Margaret, chwaer i Dewi. Yr oedd awen barod y naill, a llais mwyn a melus-ber y llall, yn naturiol yn peri cyfeillgarwch mynwesol rhyngddynt. Oes fer, ond tra defnyddiol, a gafodd John Evans, ac fe geir Englyn Beddargraffyddol gyfansoddodd Dewi ar y pryd yn y gyfrol hon. Yr oedd yn naturiol i zel a gweithgarwch ei gyfaill ddylanwadu yn gryf ar Dewi, ac ni a gawn ei fod am flynyddau lawer ar ol hyn yn Ddirwestwr zelog, fel y dengys y ddau bennill a gyfansoddodd ef yn ngrym y gwres dirwestol, a'i sen lem i'w hen gyfaill Meurig Ebrill.

Yn yr adeg hon hefyd, ymunodd Dewi a'r Methodistiaid, gyda'r rhai y magwyd ef, ac yr arferai wrandaw yn wastadol, a bu yn aelod zelog yn Salem am flynyddau, ac yn athraw