Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ADGOFION BYWGRAFFYDDOL


———————

GANWYD Dafydd Thomas, (Dewi Wnion) Mehefin 22ain 1800. Enw ei dad oedd Dafydd Tomas Rolant, yr hwn oedd yn enedigol o Lanymawddwy, ac yn saer wrth ei alwedigaeth. Y mae iddo lawer o berthynasau yn Mawddwy. Enw ei fam oedd Elizabeth, merch Huw Ap Ifan o'r Wenallt, Rhydymain.  Yr oedd ei dad yn hoff iawn o ganu, ac yn fedrus mewn dawnsio, yr hyn oedd gyffredin a chymeradwy y dyddiau hyny. Pan yn gweithio ei gelfyddyd yn Llanelltyd arferai fyned i "nosweithiau llawen" a gynnelid yn Rhydymain; ac yn y rhai hyny y, daeth i gydnabyddiaeth gyntaf ag Elizabeth. Ar ol priodi aethant i fyw i Ddoluwcheogryd, gerllaw Dolgellau, ac yno y buont yn preswylio hyd ddiwedd eu hoes. 

Dyn o daldra cyffredin oedd yr "Hen Dafydd Tomos", ond yr oedd ganddo gorff cadarn anarferol; ac yr oedd yn parhau yn gryf iawn hyd y diwedd. Pa faint bynag oedd ei hoftder at ddawnsio a difyrwch cyffelyb yn ei ieuenctyd nid yn hir y bu, ar ol priodi, cyn i gyfnewidiad amlwg gymeryd lle arno. Tua'r flwyddyn 1791, efe a ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nolgellau, a bu yn aelod proffesedig gyda hwy am 53 o flynyddoedd. Arferai eistedd, yn ei flynyddau olaf, bob amser bron yn y "pulpud bach;" a byddai yn hawdd gwybod ar Dafydd Tomos