Siôn William, dinam bob dydd — ŵr hybarch,
A Siân Rhobert gelfydd;
Hvnaws bo'nt tra'u heinioes bydd —
Duw, gwared eu magwyrydd!
————
BEDD EI FAM
Englyn a wnaeth tra yn sefyll wrth Fedd ei Fam yn Mynwent Llanfachreth, tua'r flwyddyn 1836.
Is daear er dystewi — o'th eiriau
Wryth eraill o'r Cwmni,
Deio dy fab di ydwyf fi —
Ai tybed na'm hatebi?
————
MEURIG EBRILL A HARRI'R TEILIWR.
Yr oedd Harri yn adnabyddus iawn yn Nolgellau hanner can mlynedd yn ol. Byddai yn dra hoff o ambell i "derm," fel ei gelwid, yn awr ac eilwaith. Ond yn nechreuad Dirwest, fe ymunodd yntau â'r gymdeithas am dymhor; ond aeth ei hen brofedigaeth yn rhy gref iddo drachefn, a phan dorodd ei ymrwymiad, cyfansoddodd Meurig Ebrill yr Englyn canlynol iddo, —
HARRI'R TEILIWR, hurt olwg, — a bechodd
Heb achos, mae'n amlwg;
Ni welodd yn ei alwg*
Fawr gysur wrth drechu'r drwg.
*fynwes
Atebwyd ef gan Dewi fel y canlyn, —
Meurig, paham ymyri — am ddugas
Ymddygiad mor ddifri'?
Cael mwynder yn d'arfer di,
Annoeth ŵr, a wnaeth Harri.