Tudalen:Gwaith-Dewi-Wnion.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bunhill Fields. Cyfodwyd Cofadail ar ei Fedd gan Foneddigion o Gymru, ac y mae yr Englyn canlynol o waith Dewi, yn mhlith eraill: yn gerfiedig arni.

 
Talent fel teimlydd telyn, — i'w gofo
A gafodd yn blentyn;
Mae'r bysedd hoywedd, er hyn,
Ffraeth ranau, heb ffrwyth ronyn.


————


AR FEDD MR HUMPHREY WILLIAMS. Mab hynaf y diweddar J. Jones Williams, Ysw. ,Cyfreithiwr, Dolgellau, oedd efe. Bu farw tra yn Efrydydd Meddygol yn Llundain, a chladdwyd ef yn Mynwent Bunhill Fields,


  
Torwyd yr impyn tirion,
I lawer mae'n brudd-der bron;
Y mae arwydd yn Meirion,
Gwall y tir yw'r golled hon;
O! fedd, mae'n drwm i ni fod
Ein Williams yn dy waelod.


————


COFGOLOFN DAFYDD IONAWR.


Adeiladwyd y gofgolofn uchod ar Fedd yr hen "Fardd Cristionogol" ar draul y diweddar Barch. John Jones, Borthwnog. Cynnygiodd y diweddar Mr. R. O. Rees wobr am yr Englyn goreu i'w gerfio arni. Daeth nifer anferth o Englynion i law y beirniad, yr hwn a ddewisodd chwech o honynt fel y goreuon, gan eu rhestru yn gyfartal. Yr oedd yr Englyn isod o waith Dewi yn un o'r chwech.


 
O dan hon mae dyn hynod! — pa orchest
Y w parchu ei feddrod!
O achos yr enw uchod
E fyn barch er a fo'n bod!