Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cynhwysiad.

  • Adgofion Mebyd ac Ieuenctid
  • Gwennol gyntaf y tymor
  • Caniadau Ieuenctid
  • BRWYDR TRAFALGAR—
    • Napoleon a Nelson
    • Brwydr Aboukir
    • Hynt y Llynges
    • Araeth Nelson
    • Brwydr Trafalgar
    • Cwymp Nelson
    • Galar Prydain
  • Iesu a wylodd
  • Enaid Blinderus yn ymofyn gorffwysfa
  • Ym Mostyn a Dinbych
  • Cwymp Babilon
  • Eangrder y Greadigaeth,—
    • I. Syniadau Athronydd
    • II. Syniadau'r Beibl
  • Bedd Williams o'r Wern
  • Yng nghadair Prifardd
  • Ar ymweliadi Gymru
  • R.ab Gwilym Ddu
  • Morgan Howel
  • Thomas Gee
  • Richard Jones, Llwyngwril
  • Emynnau,—
    • 1. Cariad Crist
    • 2. Hawddgarwch Crist
    • 3 Holltau'r Graig
  • Pwy, pwy yw Ef?

AWDL HEDDWCH,—

  • I. Tirion oes teyrnasiad Hedd a Chariad ar y ddaear; dau lais mwyn o'r ddaear yn uno yng nghydgan meibion Ion; Satan yn clywed y llais, yn chwilio ddaear ac yn ei chael; dadgan ei gynllun i'r angylion coll; dwyn rhyfel ar y ddaear.
  • II. Oes Rhyfel. Dig Cain a hela Nimrod; dyfeisio rhyfel; ymladd am dir neu wraig, y frwydr.-dynesu, sain yr udgorn, y saethyddion, rhuthr y gwyr meirch, llid ofnadwy'r cledd, y gyflafan, mante'l y nos. Mair ar faes y gad, dioddef y clwyfedig. Hen wledydd rhyfelgar,— y Aifft, Assyria, Chaldea, Persia, Groeg, Rhufain; Rhyfelwyr y Groes. Dyfais yn rhoi llaw a llais i ryfel. Yr Awen yn deffro nwyd rhyfel. Waterloo, Cost rhyfel.
  • III. Proffwydi hedd, Cân Dafydd. Selyf a chân Esay. Tywysog heddwch yn ddod yng nghyflawnder yr amser; cyhoeddi heddwch ar y ddaear; y llew a'r ych. Hen hoffwyr rhyddid,—Wicliff ac Erasmus, y Morafiaid a'r Crynwyr, Milwr yn Eisteddfodwr. Troi'r cleddyfau'n sychau. Teyrnasiad y Messiah mewn hedd.