Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y naill un i wneyd i'r llall—y pethau
Olygai 'n oreu i gael gan arall.
Yn ei daith berffaith drwy'r byd,
Ei ddifeius hardd fywyd,
Fu 'n ol y rheol bur hon,
O'i ddaioni i ddynion.


Yn ei ing pan y trengodd,—am hedd a
Maddeuant y llefodd;
Dig y ne', efe o'i fodd,
Yn ei weddi anhuddodd.

Ac ef wed'yn pan cyfododd,—yn fyw
O'i fedd, ail gyhoeddodd
Hedd i fyd yn rhydd o'i fodd,—heb wrtheb,
A'i anwyl wyneb yn hael a wenodd.


A chyn iddo esgyn i
Lawenydd gwlad goleuni,
Ordeiniodd wyr, doniodd o
Ei weision heb betruso,
Yn genhadau i hau hedd,
I fynwes byd cyfannedd ;
Ac fel hyn y teg Flaenawr,
Ai adrefi nef yn awr;
I eiriol tros farwol fyd,
Hyd foreu y ca'i adferyd,
O'i dra anial drueni,
I uchel fraint heddychol fri.
Wedi mawrion dymhorau
O ddu gur rhyfeloedd gau;
I'r maes aeth gwir rymus wyr,
Yn finiog ysgrifenwyr,
Ar ryfel, i'w arafu,
A'i wrthod ef a'i warth du.