Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un fu'n chwarae'n moreu'i fywyd
Ar Hiraethog, fynydd iach,
Un fu'n byw ar lannau hyfryd
Afon loew Aled fach—
Ewch â hwnnw o'i gynhefin,
I ryw Seisnig, fyglyd dre',
Os oes dan yr awyr undyn
Edwyn hiraeth—dyna fe!

Hiraeth a'm dych'mygol huda
Dros y môr a thros y wlad,
I roi tro i Chwibren Isa',
Hen dreftadaeth teulu 'nhad:
Awn i'r hen ystafell honno
Lle tarawai'r galon hon
Guriad cyntaf bywyd yno,
Yn y fynwes dan fy mron.

Awn i rodio hyfryd fryniau
Hen gynhefin praidd fy nhad,
Lle bu Tango'r ci a minnau,
'R ddau ddedwyddaf yn y wlad:
Mi ni wyddwn, mwy na Thango,
Am ofidiau bywyd gau,
On' bai'r ddafad ungorn honno,
Buasem berffaith ddedwydd ddau.

Y mae crybwyll Tango 'n peri
Imi gofio llawer ci
Enwog arall, allwn enwi,
Yn eu hoes, adwaenwn i:—
Cwrt, y Wern, a Mot, yr Acrau,
Bute, hynafgi Sion y go'—
Hedger fawr y Priddbwll, yntau,
Heliwr cadarn ydoedd o,