Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Barai imi fynych gofio
Am y ddafad ungorn gas.

Ni feddyliwn fod bryd hynny
Gan Ragluniaeth ddoeth y nen,
Law mewn amgylchiadau felly,
A bwriadau i'w dwyn i ben—
Gosod croesau ysgeifn hynod,
Ar fy ysgwydd fechan, wan,
Er fy mharotoi i gyfarfod
Croesau trymach yn y man.

Hi a drefnai 'r groes a'r adfyd,
Un yn llai, a'r llall yn fwy;
Trefnai waredigaeth hefyd,
Gyferbyniol iddynt hwy:
Os y ddafad barai flinder,
Poen a phryder fore a hwyr,
Trefnid Tango ar ei chyfer,
Rhag fy nigalonni 'n llwyr.

Er y diwrnod y gadewais
Lannau Aled, hyfryd fro,
Llawer blinfyd chwerw brofais,
Yn y byd o dro i dro;
Gwell yw tynnu llenni trostynt,
Gwell yw peidio i go' eu dwyn,
Ond yn unig un o honynt—
Colli fy Angharad[1] fwyn.

Fy ngholomen fwyn ddiniwed,
Hoffder llygaid mam a thad,
Ergyd trwm in' oedd ei cholli,
Hir fu'n hiraeth ei barhad;

  1. Geneth fechan chwech mlwydd oed a gladdasom yn Heol Mostyn.