Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wyt yn adwaen dy dymhorau,
Ac yn cadw dy amserau—
"Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finnau,"
Ydyw'r llais ymhob twi, twi!

Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw 'th wisg yn lân a chryno,
A thithau 'n trin y clai a'i ddwbio,
Wrth wneyd dy waith.
Hollwn innau ddysgu honno—
Trin y byd, a myned trwyddo,
Heb halogi 'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno 'm calon chwaith.