Ni cheisia, nid a i dud |
Y mae Afon Aled, a Mynydd Hiraethog, i mi, yr hyn ydoedd Cedron a Hermon i'r bardd Hebreig, a Helicon a Parnasus i'r bardd Groegaidd. Y mae yn wir iddynt hwy allu gwisgo enwau eu hoffus fannau âg enwogrwydd ac urddas clasurol, a dyddordeb cyffredinol mwy nag a allodd holl ymdrechion awenyddol Gruffydd Hiraethog a Thudur Aled gynt, a G. Hiraethog ac I. G. Aled yn awr, roddi erioed na byth ar eu mynydd a'u hafon hwy; ond er hynny, ni roddai beirdd Aled a Hiraethog y goreu i feirdd Palestina a Groeg yn eu hymserch at y mannau y buont yn cyweirio tannau telyn eu hawenyddiaeth gyntaf erioed ynddynt.
Yr hyn a ddenai fy sylw a'm serch boreuol, yn bennaf, ydoedd hanesyddiaeth a seryddiaeth; ond prin iawn oedd fy manteision i borthi y tueddfryd hwn. Cyfyngid fi yn hollol, braidd, at hanesyddiaeth y Beibl; "Drych y Ddaiar a'r Ffurfafen;""Daiaryddiaeth " R. Roberts o Gaergybi; "Geiriadur Ysgrythyrol" Charles; ac "Amseryddiaeth Ysgrythyrol" Llwyd o'r Bala. Mawr oedd fy awydd am eangiad moddion gwybodaeth yn y canghennau hynny yn neillduol; ac ystyriwn y rhai oedd ganddynt gyflawnder o'r trysorau hynny o wybodaeth yn eu cyrraedd y dynion hapusaf dan haul; a thybiwn, pe buasent yn fy meddiant i, y buaswn yn gwbl ddedwydd. Ond y mae i bob sefyllfa