Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ant i'w cael ganddo am wall gramadegol neu gynghaneddol; dwrdiodd fi yn erwindost lawer tro am wallau felly. Byddwn yn arswydo wrth fyned â chyfansoddiad i'w ddangos iddo; ond yr oedd fy nghynnydd graddol yn peri iddo fawr foddhad; a chredaf yn ddilys bod llwyddiant fy anturiaeth gystadleuol gyntaf yn Aberhonddu wedi peri cymaint o lawenydd i feddwl fy athraw ag a barodd i mi fy hun. Ystyriaf nad teg fuasai i mi esgeuluso y cyfleusdra hwn i dalu y gydnabyddiaeth ddyledus hon i'm cynathraw, a'm hen gyfaill cywirgalon.

Y "Cywydd ar Frwydr Trafalgar, a marwolaeth y pen llyngesydd Nelson," un o destynau yr Eisteddfod freiniol yn Aberhonddu, yn 1826, ydoedd Reuben—cyntafanedig fy awen. Erioed o'r blaen ni chynhygiaswn ar gyfansoddi cywydd, na dim arall o bwys. Cyfansoddid hwnnw yn hollol ar anogaeth R. Davies. Cyfansoddais ef ar y meusydd gyda'm gorchwylion, a rhedwn a dernyn ar ol dernyn yn yr hwyr at fy athraw i'w ddiwygio. Nid oedd gennyf fi y disgwyliad lleiaf y buasai iddo ennill y gamp, ond yr oedd ef yn lled obeithiol; a dirfawr oedd fy syndod pan ddaeth y newydd o Aberhonddu mai yr eiddo fi oedd y buddugol. Derbyniais y wobr—ariandlws, gwerth dau gini, ac wyth gini yn arian—trwy ddwylaw y Dr. W. O. Pughe, yr hwn a safasai i'm cynrychioli yn yr eisteddfod, ac yr oedd yn trigo y pryd hwnnw gyda'i fab, y diweddar Aneurin Owen, Ysw., yn Tan y Gyrt, gerllaw Nantglyn. Wedi ei ddychweliad adref o Aberhonddu, anfonodd y Doctor wahoddjad i mi fyned i Tan y Gyrt, i dderbyn y wobr.