Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyddid i newid cryn lawer ar y ddau ragor oeddynt yn eu cyflwr cyntaf, fel y gwel y rhai a feddant y fantais i'w cymharu fel y maent yn y llyfr hwn a'r argraffiadau cyntaf o honynt.

Un o ysbryd rhyfelgar iawn yw y cyntaf; nid oeddwn yn barnu y buasai yn deg i mi gyfnewid dim ar ei ysbryd a'i dôn, gan y buasai hynny yn dinistrio ei unrhywiaeth. Yr oll a wnaed oedd tynnu ymaith linellau gweinion o ran meddwl a chynghanedd, a dodi rhai a olygwn yn gryfach yn eu lle, gan adael ystyr ac ysbryd y cyfansoddiad yr un a'r unrhyw.