Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ei wŷr enwog arweiniai
Heb ofn, ac i'w wyneb ai:
Ffrwynai efe ei ffroen falch,
A'i daer ysfa drahausfalch,
Ei alon blinion a blwng,
Dafiai i'r eigion duflwng:
Rhoes dranc ar rwysg y Ffranciaid,
Llonyddodd, blinodd y blaid;
O flaen ei nerth, yn gerth gynt,
Eu llongau ymollyngynt.
Bu acw yn Aboukir,
Ymladd, a lladd, a gwall hir;
Magnelau am oriau maith,
A bytheirient boeth araith:
 Anadl angeu dwy lynges,
Dyrchai yn niwldorchau nes
Pruddhau wyneb hardd anian,
Ennyn y dig donnau 'n dân!
Ein cawr ni, curo a wnaeth
Ei alon direolaeth ;
Llaw angeu ar eu llynges,
Estynnai, rhoddai yn rhes,
Eu llongau yn ddarnau i ddig
Daneddawl y donn addig.
Bwriodd i'r ddofnwleb oror,
Eu dynion mawrion i'r môr;
C'weiriai 'u gwely, llety llaith,
Yn y dylif dwfn dulaith.
Erys ar go'r oesau 'r gair
A roddai yn arwyddair:—
"Prydain wyl ddisgwyl yn ddwys
Y gwelir ei meib gwiwlwys,
Yn gwneyd oll, oll a allont,
Lle bynnag, bynnag y bont."