Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth yn nos faith arosol,
Ciliai 'r wawr yn awr yn ol.
A'r gân yn gwynfan dig aeth,
A miloedd mewn trwm alaeth;
Ac i'r llynges hanes hon
Drydanai drwy y dynion;
Toai tristwch tew trosti,
Dyryswyd a hurtiwyd hi.
Haf ei chlod a fachludodd,
Yn ofid trist aeaf trodd;
Yna ai tewi 'n anhawdd
Drwy hyn, a wylo 'n dra hawdd.
Yn ol i Brydain eilwaith,
Yr hwyliai, deuai ar daith;
Gwylwyr y lan a'i gwelynt
Draw yn dod o'i hynod hynt,
Yna, fe roent i ennyn,
Bylor i gyhoeddi hyn,
A Phrydain hoff a redodd
I gyfarch drwy barch o'i bodd,
Ei meibion hoewon, gwnai hi
Am eu helynt ymholi.
Ethryb eu gweld yn athrist,
Gan boen drom, gwynebau 'n drist,
Hi a ddelwai 'n eiddilaidd,
A'i bron yn frawychus braidd.
 
"Ah! fy meibion gwychion, gwâr,
Gwelaf eich bod mewn galar—
Mynegwch, na chelwch chwi,
Ba ryw achos bair ichwi
Heddyw i fod mor bruddion?
Ba helynt fu i'r hynt fawr hon ?"
Hwythau yn eu dagrau, do,
Wnaen' ateb i hon eto:—