"Gwnaethost iddynt barhau byth yn dragywydd."
Dy saerniaeth a gysylltai
'R nef fel pabell gled ddilyth,
Fel na all dylanwad oesau
Syflyd un o'i hoelion byth:
Gorchest ddwyfol ydoedd hoelio
Bydoedd ddirifedi ynghyd—
Gorchest fwy oedd rhoi dy hunan
Yn hoeliedig tros y byd!
|
"A phwy a gauodd y mor â dorau?"
Y rhuadwy for cynddeiriog,
Drinit megys baban gwan,
Pan o groth y tryblith rhedai,
Gan ddyrchafu 'i donnau i'r lan;
Ar dy lin gorweddai 'n dawel,
Rhoit y cwmwl iddo 'n bais,
A'r tew niwl yn rhwymyn tyner
Am ei wasg, heb unrhyw drais.
|
"A'r tywod mân yn gadwyn iddo."
Gweuit dywod mân yn gadwyn
Am ei lwynau rhwth yn glyd;
Dodi'r lleuad fel llawforwyn
Ufudd iawn i siglo'i gryd:
D'wedit "Ust!" yn nghlust y dymestl,
Hi ddistawai—hunai ef
Ar ei gefn, a'i wyneb gwastad,
Esmwyth, llydan, tua'r nef.
|
"Efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei ddorau."
Weithiau gyrri 'r gwynt i'w ddeffro,
A deffroad ebrwydd bair—
Egyr ei amrantau mawrion,
Gan ymstwyrian wrth dy air;
|