Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Natur fel y daeth hi allan
O dan law y Crewr ei hunan,
Heb ddim ol llaw dyn yn unman—
Dyna 'r lle i fardd.

Henffych well i'r dydd a'm dygo
Eto i Gymru fwyn i drigo,
A chael byw ac aros yno
Hyd i derfyn oes;
Gado'r Fabel Seisnig,
A'i thwrw cas anniddig,
I fwynhau tawelwch clau
Bro 'n tadau—le breintiedig;
Dianc ymaith o afaelion
Pla anfelus blin ofalon,
Llechu rhwng ei bryniau tirion,
Heb na chri na chroes.
Anghlod fyth i'r dynion diffaeth,
Cyflog—weision y llywodraeth,
A ddygasant gamdystiolaeth
Am fy hoffus wlad.
Er hynny, Gymru dirion,
Cymer di rybuddion;
Cofia gais y tri Sais,
Clyw lais eu llyfrau gleision;
Dilyn sobrwydd a diweirdeb,
Ym mhob ardal, cynnal burdeb,
Cadw eirda mewn cywirdeb,
Gochel dwyll a brad.

Bendith nef orffwyso arnad,
Tra fo llewyrch haul a lleuad,
Cyd—deyrnased hedd a chariad,
Rhwng dy fryniau di;