Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

R. AP GWILYM DDU.

O LYNLLEIFIAD lawn llafur,
Awen bach, i Eifion bur,
Dianc yn ddistaw dawel,
O dre y mŵg i dir mel;
A chai yno iach anadl,
Wych o hyd yn lle tawch hadl.
O hagr swn a chlegr y Sais,
Crochlef y Gwyddel crychlais,
A'r Ysgotyn, tordyn tew,
Crintach, ystyfnig, croentew,
Ymorol—cai ymwared,
Yn chwai, chwai—hai, hai! ehed!
A bydd, o digwydd y daw
Un dyn wrth it' fynd ynaw,
Neu ferch deg, a'th gyfarch di,
Na ateb, archaf iti,
I yrru ymlaen heb eiriach,
Hyd borth y Mynachdy Bach.
Cura 'r ddor, cai agoriad,
Yno i ti bydd caniatad.
Yna, wedyn, heb oedi,
I fewn dos—ymofyn di,
Ai byw hen esgob awen,
'Rhwn â'i wallt yn goron wen
Uwch ei ael yn gylch welir,
Cysgodlen i'w awen îr.
Mae fal doeth dderwydd, coeth, call,
Eres ŵr o oes arall :
Peraidd iawn yn nawn einioes,
Yw ei gân, fel y' mrig oes;
Parchus iawn y' mhrydnawn einioes,
Ei wedd ef yn niwedd oes.