Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi ei fynd mae adwy fawr—oes, oes,
Mae dwys eisiau 'r blaenawr;
Wylwyd ar ol ei elawr,
A wylo wna mil yn awr.

Wylo wna Cymanfaoedd—o'i herwydd
Gan hiraeth eu lluoedd,
Sy yn flin am swn y floedd,
Adfywiai 'u cyn'lleidfaoedd.


Ebrwydd aeth at ei obrwy,
Ar y maes nis ceir e mwy,
Wedi hau mewn dagrau daeth,
Awr i fedi 'r orfodaeth;
A llon ger bron ei Brynydd,
A holliach bellach y bydd.
Y lle nad oes boen na llid,
Na chŵyn dan fynych wendid.
Dirgelwch, harddwch, urddas,
Angeu 'r grog, a chyngor gras,
Arfaeth lor a'r drefn fore
Wêl yn awr yn ngoleu ne' :—
Ar ei ol ofer wylo,
Yn nef wen canu wna fo.