Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RICHARD JONES, LLWYNGWRIL.

A hir y cedwir mewn co'—oludog
Sylwadau wneid ganddo;
Heriai undyn i'w wrando,
A'i ddwy glust dan farwaidd glo.

Athraw oedd ef dieithr ei ddawn,—oedd enwog
Dduwinydd pur gyflawn;
Traethu gwir toreithiog iawn
Dan eneiniad wnai 'n uniawn.

Hynod ei ddull ydoedd o,—a gwreiddiol
Gwir addysg geid ganddo;
Caem werth ein trafferth bob tro,
Heb wiriondeb i'w wrando.

Agor ini 'r gwirionedd,—a'i adrodd
Wnai 'n fedrus mewn symledd;
Fe roi i lu ddifyr wledd,
Gwersi o olud, gwir sylwedd.

Dwthwn ei gylchymdeithio—oedd hirfaith
Ddarfu, mae'n gorffwyso;
Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo.