Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd yn y sarff wŷn dig,
Nac anianawd gwenwynig.

Holl anian oedd yn llonydd—dan nodded
Aden heddwch beunydd;
Hedd ymlifai, rhedai 'n rhydd
Yn awyr y byd newydd.

Eithr ryw sut, e ruthrai Satan—obry
O abred, tan lechian;
Y du ellyll drow'd allan
Efo'i leng o wynfa lân,
I dân, o dan gadwynau,
Aethol gosb, i'w bythol gau
Dan orlymder digter Duw,
A'i ddialedd yn ddiluw;
Taliad eu brad—ofnadwy
A fu cosb eu rhyfyg hwy.

Satan a droes, tynnai draw—y dydd hwn
O eigion wyllt annwn, dan gynllwynaw;
O'i ffau y gwibiai 'n dra phell,
Gan dawchio gwŷn a dichell.
Adsain cân anian unawl—
Y bêr dôn a glybu 'r diawl;
Gwrandawai, clustfeiniai 'r fall
Daeog, er mwyn cael deall
Y gwaith, a natur y gân—a'r achos
O'r uchel oroian;
Ai 'n ei flys at lys nef lân,
I chwilio oll, a chael allan.

Deulais geid yn y dlos gân
Suai eto 'nghlust Satan,
Yn doniad, ni adwaenai
Y sain hwn—i synnu ai—