Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ond, a fawr edifeiriaf—o herwydd
Im' herio'r Goruchaf?
Hynny'n wir, byth, byth ni wnaf—ymroddais
A thrwy falais y gwrthryfelaf.
"Ond ha! wel dyna ail doniad—uthrawg
Y dieithrio! ganiad;
Nodau y dón a'i newidiad,
A iaith hon ni wn, na'i thad.

'Mae'n taro i'm meddwl manwl y munud
Hwn, i'r Ion, ar ryw ddiweddar ennyd,
Lunio aneddfa lân o newyddfyd;
A chreu hil newydd, rai ufudd hefyd,
O fri uchelwawr a difrychreulyd,
Mewn gogoneddus ddifeius fywyd;
A hwy 'n eu hoewfro sy'n eilio 'r gân hyfryd
Hon yn ddiau, mewn mwynaidd ddyhëwyd
Heddyw gŵyl, berthwyl eu byd—sydd yno,
Rhaid imi am dano i chwilio ddychwelyd.

"Archwiliaf hyd erch waelod—aneglur
Dwin wagle diddarfod,
O bwnc i bwnc, os yw'n bod,
Af heibio, mynnaf wybod

"Ac felly, os caf allan—newyddfyd,
Caf noddfa a thrigfan—
Lle imi godi 'm lluman—i fyny,
I ail enynnu rhyfel yn anian.

"A throi dedwydd fyd dieithr y Duwdod,
Yn lle y maes im' allu ymosod,
Er torri dewrder taer ei awdurdod;
A tharo â melldith uthr a malldod,