Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I ddwyn y newydd yno—
Hanes ei daith hirfaith o.
Pan orffennodd adroddi
Iddynt ei holl helynt hi,
Ei frodyr diofrydawl


Gyfarchai—d'wedai 'r pen diawl :—
"O chwi herodron am wych wrhydri—
Duwiau y trinoedd, tadau trueni,
Na ddigalonnwch, fe ddaw goleuni ;
Codwch, anturiwch, mae gwawr yn torri,
Llwyddais i gael allweddi—dry gloion,
Egyr byd dynion yn union inni.


"Myn fy ffwrn, mi wnaf fy ffordd,
Er bri uffern—fawr brif—ffordd,
I'ch tywys ar frys i fro
Yr hynod ddaear honno;
A mynnaf weld fy maniar
Bygddu hon yn union ar
Dalaf frig y dawel fro,
A'r anneda urddfawr honno;
Mynaf y mawl, myn fy myd,
Pren bai fydd pren y bywyd!


"Dyn uniawn a wnawn fel ni—yn filain
Rhyfelawg ei ynni;
A'i ddaear i'w hafar hi,
Ys trown yn faes trueni!"


Pan yr aeth pennaeth y pwll
Drwy ei araith hirfaith hell,
Cydroi wnai y cedyrn oll,
Gyfarchwaedd ddig, ddieflig ddull.
Griddfannai, adseinai'r swn
Yn agenau creig annwn—