Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I lunio rhyfel a'i enyn-a dwyn
Pob dinistr i'w ganlyn-
Nod ei dwyll oedd gwneyd y dyn
Anwylaf i Dduw 'n elyn.


Yr awrhon digon yw dweyd,
I Satan aflan ei nwyd
L.wyddo 'n wir heb ludd i wneyd
Ei ran, a chael dyn i'w rwyd.
Dyna heddwch wedi ei anhuddo,
Ow! y dyn anwyl wedi 'i wenwyno-
Ael y nef uchel dawel yn duo,
A'r awelon yn torri i wylo,
Weld lluman Satan gas, O-yr awrhon,
Yna 'n uchafion Eden yn chwifio.


Torrai gwewyr trwy natur i'w gwywo,
Ei chaniadaeth a droi 'n ocheneidio,
Gan loesan mawrion y gwnai lesmeirio,
Doedai 'i hagwedd fod Duw wedi digio.
Tân a mellt yn ymwylltio-a'r gwewyr
Dorrai 'n yr awyr yn daran ruo.
Cerubiaid ar frys a ymwregysent,
O ufudd anian, cydymfyddinent,
Eu telynau 'n nghangau helyg hongient,
Yno awelon ar eu tannau wylent.
Yr ethol osgeirdd gornerthol a wisgent
Lurugau gemol, anrhreiddiol rai oeddent:
Eu lluon i ryfel allan a rifent,
Ac i fyny eu benyr c'wfanent;
Saethau i'w gorchwyl yn syth a gyrchent,
O gawell y daran, tân atynnent:
Yn eu dwylaw yn gleddyfau, dalient.
Y mellt ufeliar, a'r llachar lluchient;
A llu y gâlon mewn gwall a gilient,