Neu o achos y chwenychent—fenyw,
Yn fynych ymgornient:
Am eu Helen ymholent—fel dwy ddraig,
O duedd i wraig, gwledydd a rwygent.
Awch heintus eu trachwantau,
A ferwai ddwfn får y ddau,
I arfogi mawr fagad,
Hyrddio 'r gwyr yn fyrdd i'r gad.
Aberthau dynol i borthi dannedd
Hen Foloch ddygai trawsfalch eiddigedd;
I'w duw offryment—offeiriaid ffromwedd,
Luoedd dirfawr ar ei allawr hellwedd;
A thruenus ddynoliaeth a rhinwedd,
Eu dwy wylent wrth weld y dialedd,
Ol y glas angeuol gledd—ar farwol
Ysig elynol faes y gelanedd.
Mynnem roddi am unwaith,
Olwg o'u rhyfelawg waith
Dwy fyddin mewn gwrthdrin draw,
Yn y gad yn ymgydiaw;
Blaenoriaid tanbaid eu tôn,
I'w gosawd mewn trefn gyson,
Molawd a roent i'w milwyr,
I frydio 'u gwaed—fradawg wŷr;
A rhoi'u dig nwydau ar dân,
Fal i yfed cyflafan.
Y blaengadau blin gydiant
Yn chwerwon iawn, dechreu wnant.
Cydredeg wna y cadrodau—ereill,
Yn gyforiawg rengau;
Dyna 'u swn yn dynesu,
A thyrfiant eu certh arfau,
Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/91
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon