Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn eu bår yn wreichion byw,
Fal marwor ufel meryw.
Crynhoi dan eu carnau dig,
Mae aelodau maledig;
Malurion mil o arwyr
A fathrant, hwy wawdiant wyr:
Y gwaed dros eu hegwydydd
Yna red yn afon rydd.
Y bwa a'r saeth a wnaethant
Eu holl rwysg, a gorffwys gânt;
Awr y cledd o'r diwedd d'ai,
A hwn o'r wain ddihunai,
Fal mileinflaidd hwyrflaidd hyll,
Gyrcha 'n newynog erchyll;
Gan ei awydd egniol,
Ceisia fwyd i'w wancus fol.


Hwn a fu ringyll pennaf yr angau,
Y mwya'i lwyddiant ar faes ymladdau;
O! wele 'i lymion ddurlyfnion lafnau,
Yn loew wydrog dan haul belydrau:
Hwy gyd-darawant, rhyngant drwy'r rhen
A lluchio o'u dannedd wna lluchedenau.
Torrant, trywanant trwy y tariannau,
A hyll y rhwygant yr holl lurugau.
Ha í ní ddylenwir y cleddawl, wyniau,
Efe wedyn a fwyty fywydau ;
Mynn waed dynol i'w elynol enau,
Fe yrr i ddinistr heddyw fyrddiynau.
O clywch alaethus, wylofus lefau
Ei glwyfedigion, fawrion niferau;
Drwy'r awyr uchod, draw rhua'r ochau,
I'wrdd fynwes y graig a'r gruddfannan,
Fel mewn cyd-deimlad a'u dioddefiadau,
Yna weithian adseinia hithau.