Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"O! f'Edwyn!—ai Edwyn wyd?
F' Edwyn anwylaf ydwyd!
O! Edwyn, dy Fair ydwyf,
Clyw hyn dy Fair, Edwyn, wyf!
Dywed air wrth dy Fair fad,
Yn fy nghur, O! fy nghariad!"
Edwyn oedd yn ymadael,
I Mair nid oedd gair i'w gael;
Hi graffai, tybiai weld der
Ei lygad yn ail agor,
A phelydriad cariad cu
Yno 'n anwyl enynnu:
Yn ingoedd dyfnion angau,
Tân pur hwn eto'n parhau
Yn ei rym; ond ei dremiad,
Farwol oedd ar ei Fair fad;
Ffagliad fel cyniad canwyll,
A'i gwawr wrth ddiffodd mewn gwyll.
Syrthiai Mair mewn llesmair llym,
Ar y ddae'r yn oer ddirym:
Trallod oedd ormod i'w ddal,
A faeddai'i chalon feddal;
Dyrchodd un farwol ddolef,
Hynod gri, ochenaid gref,
Trengodd, ehedodd ar hyn
O'i hadwyth ar ol Edwyn.
Un fyddin gai drwm faeddiad,
Ysig iawn o faes y gad,
Hi a giliai 'n ddigalon,
Hwnt o fawr drwst y frwydr hon.

Yr un fuddugol, yn wrol wnai arwain
Ar ei lliwiedig fanerau llydain,
Arwydd gorfoledd a mawredd mirain,
Mewn uchel afiaeth a mynych lefain;