Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofiant Ann Griffiths.

WEDI DEUGAIN MLYNEDD.

Yn "Nhraethodydd" 1846, rhifyn Hydref y mae gan John Hughes erthygl dan yr enw "Cofiant a Llythyrau A. Griffiths." Wedi hynny cyhoeddwyd yr erthygl yn llyfr. Dyma hi

Priodol yw dwedyd am wrthddrych y cofiant hwn yn gyffelyb ac y dywedodd yr apostol Pau am Andronicus a Junja, ei geraint, eu bod "yn hynod ymhlith yr apostolion." Am Ann Griffiths, gwirionedd dïormoddiaeth ydyw ei bod yn hynod ymhlith y merched a'r gwragedd crefyddol

Hi oedd ferch henaf John a Jane Thomas, Dolwar Fechan, plwyf Llanfihangel yn Ngwynfa, sir Drefaldwyn, a'r ieuangaf ond un o'u plant. Yr oedd Mr. John Thomas yn un o'r tyddynwyr mwyaf parchedig yn y plwyf, yn wr synwyrol fel gwladwr, ac yn meddu ar radd o ddaw barddoniaeth. Eglwyswr selog oedd ef, a'i deulu oedd o'r un tueddfryd; ond nid oedd dim gwir ddaioni i'w ddysgwyl yn eglwys y plwyf y pryd hyny, canys nid oedd yno weledigaeth eglur." Hynod o bell oedd Mr. John Thomas a'i deulu oddiwrth feddwl am wrandaw ar neb o bregethwyr un blaid o Ymneillduwyr. Myned i eglwys y plwyf y Sabbothau, a dilyn y dawns, &c., oedd agwedd ieuenctyd y wlad y pryd hwnw, ac felly yr arferai ieuenctyd y teulu hwn. Ond daeth crefydd er hyny i'r teulu hwn, a hyny yn y modd a ganlyn. Rhoddodd un cymydog, oedd yn aelod gyda y Methodistiaid Calfinaidd, fenthyg y llyfr hwnw o waith Baxter, a elwir "Tragywyddol orphwysfa'r Saint," i John, mab hynaf John Thomas; ac wrth ddarllen hwnw, a'i ddarllen hefyd i ryw wraig