Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daflod wair i weddio; a phan yn yr ymdrech yma mewn gweddi ddirgel, daeth y geiriau canlynol i'w feddwl gyda goleuni a nerth mawr, "Er fod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynnydda yn ddirfawr;" a chafodd weled eu cyflawniad, canys daeth ei dad, ei frawd, a'i ddwy chwaer at grefydd. Yn mhen ychydig flynyddoedd wedi iddo ddyfod yn aelod o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Pen llŷs. [1] dewiswyd ef yn ddiacon, yr hon swydd a wasanaeth odd yn ddyladwy a ffyddlawn. Yr oedd ei afael daer-ddwys am gyhoeddiadau pregethwyr efengyl i'r Bont a Dolwar bron yn anorchfygol. Bu pregethu yn y tŷ annedd, sef Dolwar Fechan, am ynghylch naw mlynedd, a hyny gyda llawer o lewyrch y rhan amlaf. Os deuai pregethwr dyeithr yno unwaith, byddai yn sicr o ddyfod yno drachefn pan ddeuai i'r cyfleusdra; er na fu y weinidogaeth yno yn foddion dychweliad i nemawr ond y teulu Bu farw John Thomas, ieuangaf, mewn tangnefedd, yn mis Ionawr, 1808.

Yn awr, dychwelwn at brif wrthddrych ein cofiant, Ann Thomas, wedi hyny Ann Griffths. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1780, yn Dolwar Fechan. Cafodd beth ysgol yn ei hieuenctid, i ddysgu darllen Saesoneg, ac ysgrifenu; ond nid oedd yn deall ond ychydig o Saesoneg. O ran ei hynsawdd, yr oedd o gyfansoddiad tyner, . wynebpryd gwyn a gwridog, talcen lled uchel, gwallt tywyll, yn dalach o gorffolaeth na'r cyffredin o ferched. llygaid siriol ar don y croen,

  1. O Ben llys y symudwyd yr achos i Bont Robert, yr hyn a fu yn raddol yn y blynyddoedd 1795 a 1796. Yn y gwanwyn o'r flwyddyn 1795, dechreuodd diwygiad grymus yn Pont Robert.