Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grymus yn ei hystafell ddirgel, hyd oni byddai yn tori allan mewn gorfoledd uchel, fel y gellid ei chlywed o ystafelloedd y ty, ac weithiau clywid ei bloeddiadau gorfoleddus led amryw gaeau oddiwrth y ty. Un tro, pan oedd Mr. Griffith Jones o'r Sarnau, ger y Bala, a'r Parch. John Parry, Caerlleon, yn Dolwar Fechan yn pregethu, cawsant rwyddineb neillduol i lefaru, a thorodd yn orfoledd cryf ar Ann ac eraill ar ddiwedd y cyfarfod; ac wedi i bob peth lonyddu, dywedodd Ann wrthynt ei bod hi wedi meddwl y caent odfa lewyrchus y noswaith hono. Gofynasant hwythau ar ba seiliau yr oedd wedi meddwl hyny. Nid hawdd oedd ganddi ateb—ond yn y man hi addefodd mai ei seiliau oedd, ei bod wedi cael cymhorth neillduol yn y dirgel yn achos yr oedfa: ac mae lle cryf i farnu y byddai yn fynych mewn ymdrechiadau yn y dirgel yn achos yr oedfäon cyn y deuent. Byddai ar brydiau, pan wrth ei throell yn nyddu, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd ei dillad, gan fyned yn fynych i'w hystafell ddirgel, a'i hymddangosiad yn profi yn eglur ei bod mewn trallodd tra mawr o ran ei meddwl y prydiau hyny: a hoffai yn fawr gael pob dystawrwydd pan y byddai yn yr agwedd hon.

Yr oedd yn serchog iawn tuag at y pregethwyr a ddeuent yno i bregethu. Dywedodd ryw dro wrth barotôi ymborth erbyn dyfodfa rhyw bregethwr, mai hyny o hyfrydwch oedd hi yn ei gael yn mhethau y byd hwn oedd mewn parotôi ymborth i bregethwyr yr efengyl. Gweuai lawer pâr o hosanau gorwych, &c., i'w rhoddi i bregethwyr ag y gwyddai fod eu hamgylchiadau yn isel.

Yr oedd o dymher naturiol fywiog, siriol, a