llwyr a'r lleill, a ofnai mai i'r llyn y disgynent: ond ni bu hyny. Dro arall, ar noswaith led dywell, fel yr oeddynt yn cerdded ymlaen dan ganu a moliannu, collasant y ffordd, ac aethant i ryw fan anwastad a chlapiog, hyd onid oeddynt yn syrthio ar hyd y llawr, ac er hyny yn canu ac yn moliannu hyd yn nod pan oeddynt ar lawr. Dro arall, pan oedd Ann a'i chyfeillesau yn cadw cyfarfod gweddi, wrth ymadael i ddychwelyd i'w cartrefi, pan yr oeddynt mewn hwyl nefolaidd yn canu ac yn moliannu Duw, daeth pac o lancia gwag ac anystyriol atynt mewn bwriad o'u gwawdio a'u dyrysu; a chlywodd un o'r merched, oedd heb fod dan ddylanwad cryf o'r hwyl nefolaidd y tro hwn ar ei thymher, y llanciau yn siarad â'u gilydd wrth y nesaf atynt, ac un yn gofyn i'r llall, "Yn mha un yr ymafli di?" Atebai, Yn y benaf"—sef Ann. Ond pan oedd yn ddigon agos, ymaflodd Ann yn ei law ef, gan adrodd y geiriau hyn, "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd, &c.. ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll" drosodd amryw weithiau gyda nerth a goleuni mawr, nes yr oedd y llanc yn delwi ac yn wylo. Ymaflodd un arall or merched yn llaw llanc arall, gan adrodd y geiriau hyny, "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" gan eu hadrodd amryw withiau gyda'r cyffelyb nerth a goleuni; a'r canlyniad a fu i'r llanciau fyned ymaith dan wylo yn lle gwawdio. Adroddwyd yr hanesyn hwn gan un ag sydd eto yn fyw, ag oedd yn y lle ar y pryd.
Llawer tro cyffelyb i'r troion uchod a fu, pa rai nid ydynt mewn coffadwriaeth fanylaidd